Y Pwyllgor Menter a Busnes 28 Chwefror 2013

 

Adolygiad o Gymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14 i 19 oed yng Nghymru

 

 

 

Yr Adolygiad o Gymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14 i 19 oed        tudalen 1

Cymwysterau galwedigaethol                                                    -           tudalen 1 – 10

Cymwysterau cyffredinol                                                             -           tudalen 10

Cymhwyster Bagloriaeth Cymru                                               -           tudalen 11

 

 

1.      Yr Adolygiad o Gymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14 i 19 oed yng Nghymru

 

1.1 Lansiwyd yr Adolygiad o Gymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14 i 19 oed yng Nghymru ym mis Medi 2011.  Cafodd ei arwain gan Fwrdd Adolygu a benodwyd ym mis Tachwedd 2011. Y Cadeirydd oedd Huw Evans OBE ac roedd y Bwrdd yn cynnwys aelodau allanol, a oedd yn cynnwys dau gyflogwr, dau bennaeth, penaethiaid Addysg Bellach, ymarferwyr darpariaeth dysgu seiliedig ar waith ac addysg uwch, a swyddogion Llywodraeth Cymru. Roedd un pennaeth yn dod o’r sector cyfrwng Cymraeg, ac roedd sawl aelod o’r Bwrdd yn siaradwyr Cymraeg.

 

1.2 Tasg y Bwrdd oedd ystyried y ffordd orau o gyflawni gweledigaeth o ‘gymwysterau sy’n cael eu deall a’u gwerthfawrogi, ac sy’n bodloni anghenion ein pobl ifanc ac economi Cymru’. Ysgogwyd yr Adolygiad gan nifer o bryderon ynghylch cymhlethdod y system bresennol, i ba raddau y mae pobl yn ei deall, a pherthnasedd, gwerth a thrylwyredd rhai cymwysterau

 

1.3 Mae’r Adolygiad yn gwbl seiliedig ar dystiolaeth a thrafodaethau â grwpiau rhanddeiliaid. Ar 28 Tachwedd 2012, cyflwynodd y Bwrdd ei adroddiad terfynol a’i argymhellion i’r Gweinidogion. Ar 5 Rhagfyr, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau ei fod yn derbyn y cynnig yn argymhelliad pump: sefydlu Cymwysterau Cymru, ac ar 29 Ionawr 2013, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau fod Llywodraeth Cymru’n derbyn yn gyffredinol y pedwar deg un argymhelliad arall.

 

2.      Cymwysterau galwedigaethol  

 

2.1 Bydd yr Adolygiad o Gymwysterau’n cael effaith bositif ar gymwysterau galwedigaethol yng Nghymru. Mynegodd y Bwrdd Adolygu ei gefnogaeth i addysg alwedigaethol, gan nodi y dylai cymwysterau safon uchel, perthnasol gael eu cydnabod yn yr un modd â chymwysterau cyffredinol cyfatebol. Cydnabu’r Bwrdd hefyd y rôl bwysig sydd gan gymwysterau galwedigaethol i ymgysylltu â dysgwyr ifanc.  Mae model diwygiedig, mwy trylwyr arfaethedig Bagloriaeth Cymru yn cefnogi cymwysterau galwedigaethol a chyffredinol, gan sicrhau y bydd dysgwyr yn cael yr un cymhwyster Bagloriaeth Cymru ar bob lefel boed hwy’n dilyn llwybr cyffredinol, galwedigaethol neu gyfun. 

 

2.2 Bydd y prif bryderon yn ymwneud â chymwysterau galwedigaethol a godwyd yn ystod yr Adolygiad yn cael sylw drwy weithredu’r argymhellion. Rhoddir crynodeb o’r rhain isod.

 

3.        Yr angen am eglurder ynghylch diben cymwysterau

 

3.1  Mae diffyg eglurder ynghylch diben cymwysterau wedi arwain pobl ifanc a darparwyr i wneud dewisiadau sy’n seiliedig ar ffactorau heblaw perthnasedd a gwerth y cymwysterau. Mae rhai pobl ifanc wedi cymryd cymwysterau nad oeddent wedi’u datblygu ar gyfer y grŵp oedran hwn, er enghraifft, roedd pobl ifanc 14 i 16 oed yn cymryd cymwysterau’n seiliedig ar gymhwysedd a oedd wedi’u cynllunio ar gyfer oedolion a oedd yn y gweithle eisoes. Mae hyn yn ei dro wedi cael effaith negyddol ar y canfyddiad o gymwysterau galwedigaethol yn gyffredinol.

 

3.2  Mae cymwysterau galwedigaethol yn eu cynnig, a byddant yn parhau i gael eu cynnig, ar sail tair gwlad. Mae hyn yn digwydd am eu bod yn seiliedig ar Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol, heb lawer o angen am amrywiad rhwng gwledydd y DU. Fodd bynnag, mae’r Adolygiad yn argymell y dylai cymwysterau galwedigaethol yng Nghymru gael eu nodi fel rhai sy’n perthyn i un o’r ddau gategori canlynol: 

 

addysg neu hyfforddiant cyffredinol neu alwedigaethol a gynhelir

yn y system addysg gychwynnol, fel arfer cyn mynd i fyd gwaith. Nid yw’n arwain at gymhwysedd galwedigaethol.

a hyfforddiant ar ôl addysg a hyfforddiant cychwynnol, neu ar ôl mynd i fyd gwaith, er enghraifft i wella neu ddiweddaru gwybodaeth neu sgiliau neu ddysgu sgiliau newydd er mwyn newid gyrfa. Mae hwn yn arwain at gymhwysedd galwedigaethol.

 

3.3  Yn achos pobl ifanc 14 i 16 oed, mae’r Adolygiad yn argymell mai dim ond IVETs ddylai fod ar gael, gan y bydd y rhain yn rhoi cyflwyniad cyffredinol i sector diwydiant, gan ategu’r egwyddor o gwricwlwm cytbwys yn y cyfnod hwn. Dylai’r ddau gategori fod ar gael fel bydd yn briodol ar ôl 16 oed. Dylai symud o IVETs i CVETs gael ei gydnabod fel cynnydd gan y dysgwyr hyd yn oed pan fydd y dysgu’n parhau ar lefel 2.

 

3.4  Dylai mabwysiadu’r diffiniadau hyn, sy’n gyffredin ledled Ewrop, arwain at eglurder a chydlyniant mewn darpariaeth cymwysterau galwedigaethol a hybu dilyniant, lleihau dyblygu dysgu a’r rhwystredigaeth a deimlir weithiau gan ddysgwyr sy’n parhau i fod ar lefel 2. Disgwyliwn allu labelu cymwysterau yn y system un ai fel IVET neu CVET erbyn diwedd 2013. 

 

4.        Mesur perfformiad

 

4.1 Ystyr mesur perfformiad yn y cyd-destun hwn yw adrodd ar berfformiad darparwyr yn hytrach na mesur cyflawniad dysgwr unigol.

 

4.2  Ar hyn o bryd, mae rhai cymwysterau galwedigaethol a gymerir yn 14 i 16 oed yn werth hyd at chwech TGAU o ran perfformiad. Mae’r system bresennol o gyfwerthoedd rhwng cymwysterau’n gallu camarwain dysgwyr i feddwl y gall cymryd cymwysterau penodol fod yn berthnasol dros ben ac yn fwy defnyddiol nag y maent yn ddiweddarach mewn bywyd, yn seiliedig ar werth cyfwerthoedd sydd wedi’i orliwio. 

 

4.3  Daeth yr Adolygiad i’r casgliad nad yw rhai o’r cyfwerthoedd presennol yn gredadwy a’u bod yn ystumio’r dewis o gymwysterau sy’n cael ei gynnig a’i hyrwyddo. Gall camsyniadau ynghylch gwir werth rhai cymwysterau achosi dysgwyr wneud dewisiadau gwael ac, yn ei dro, arwain at agweddau negyddol tuag at rai cymwysterau’n seiliedig ar ddisgwyliadau sy’n gysylltiedig â chyfwerthoedd sydd wedi eu gorliwio.

 

4.4 Mae’r Bwrdd Adolygu felly’n argymell cyflwynocyfyngiad o ddau gymhwyster TGAU cyfwerth yn nhermau perfformiad fesul cymhwyster, hyd yn oed os yw maint datganedig cymhwyster yn fwy na 2 TGAU. Mae’n argymell hefyd y dylid cyflwyno terfyn o 40 y cant ar gyfraniad cymwysterau heb fod yn gymwysterau TGAU i drothwyon Lefel 1 a Lefel 2 ac i’r cymwysterau allanol ym Magloriaeth Cymru yn 14 i 16 oed. Gallai rhagor o gymwysterau galwedigaethol neu rai mwy barhau i gael eu dysgu pan fyddant yn diwallu anghenion dysgwyr unigol, ond ni fyddent yn cyfrif tuag at fesurau perfformiad yn yr un ffordd ag y maent ar hyn o bryd. Dylai hyn gael gwared ar y cymhellion i ysgolion i annog myfyrwyr i ddilyn cymwysterau galwedigaethol sy’n denu pwysoliad trwm o ran perfformiad, ond nad ydynt bob amser er lles gorau’r dysgwyr. Dylai hefyd annog cwricwlwm eang a chytbwys.

 

5.        Angen am broses gryfach i borthgadw cymwysterau a sicrhau ansawdd

 

5.1  Mae cymwysterau’n mynd drwy broses ddeuol cyn y cânt eu prif ffrydio: achrediad ar fframwaith rheoleiddio cymwysterau, a chymeradwyaeth i fod yn gymwys am arian cyhoeddus. Mae cymwysterau a gymeradwyir ar gyfer addysgu yng Nghymru ac yn gymwys i gael arian cyhoeddus yn cael eu rhestru ar y Gronfa Ddata o Gymwysterau Cymeradwy yng Nghymru (DAQW). Ym mis Ionawr 2012, roedd dros 10,400 o gymwysterau ar y DAQW ar gyfer y grŵp oedran 14 i 19, nifer sy’n cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Roedd y rhan fwyaf o’r rhain yn gymwysterau galwedigaethol. Roedd mwyafrif llethol y rhai a ymatebodd i ymgynghoriad yr Adolygiad yn cytuno y dylid lleihau nifer y cymwysterau ar gyfer rhai 14 i 19 oed.

 

5.2  Nid yw’r systemau presennol yn cynnwys gwiriadau sy’n seiliedig ar berthnasedd a gwerth cymwysterau. Fodd bynnag, dim ond ychydig o wybodaeth yn ymwneud â diben, perthnasedd a gwerth cymwysterau y mae Cyrff Dyfarnu’n gofyn amdani yn achos cyflwyniadau cymwysterau galwedigaethol, ac nid yw’r rhain yn gysylltiedig â chwestiynau oed benodol. 

 

5.3  Mae’r Adolygiad yn argymell bod proses borthgadw gryfach yn cael ei chyflwyno, sy’n debygol o gael effaith sylweddol ar y cymwysterau galwedigaethol fydd ar gael i’r grŵp oedran 14 i 19. Daeth yr Adolygiad i’r casgliad y dylai’r egwyddor o berthnasedd (a ystyrir o safbwynt dilyniant i addysg cam nesaf neu gyflogaeth) a gwerth (a ystyrir o safbwynt budd addysgol ehangach i’r dysgwr) ategu’r broses achredu a chymeradwyo ar gyfer cymwysterau i’r grŵp oedran 14 i 19. Mae’r argymhelliad sy’n gysylltiedig â’r prosesau porthgadw hyn yn tybio dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth i bennu perthnasedd a gwerth, gan droi at nifer o ffynonellau gan gynnwys diben datganedig y cymhwyster, manylebau pwnc a safonau

galwedigaethol. Mae proses borthgadw gadarn yn debygol o arwain at lai o gymwysterau, ond bod y rheini o ansawdd uwch, ar gael i ddysgwyr 14 i 19 oed yng Nghymru, yn enwedig rhai 14 i 16 oed a all, yn eu tro, arwain at well dealltwriaeth, ymwybyddiaeth a chanfyddiad o gymwysterau galwedigaethol.

 

5.4  Dylid gofyn i Gyrff Dyfarnu gyflwyno cyfiawnhad mwy manwl ar gyfer cymwysterau i Lywodraeth Cymru ar adeg eu cyflwyno. Yn ogystal â rhoi cyfrifoldeb ar ysgwyddau Cyrff Dyfarnu, bydd hyn hefyd yn cynnig sail dystiolaeth y gall rhanddeiliaid graffu arni wrth wirio perthnasedd a gwerth a chan reoleiddwyr mewn gweithgarwch sicrhau ansawdd.

 

5.5  Mae argymhellion yr Adolygiad sy’n ymwneud â’r broses borthgadw’n cynnwys rôl i Gynghorau / Sefydliadau Sgiliau Sector (SSCs/SSOs) (neu gyrff cyflogwyr / sector priodol) i fynd ati i raddio perthnasedd cymwysterau galwedigaethol, yn seiliedig ar set o feini prawf. Os na thybir mai’r SSCs/SSOs yw’r sefydliad mwyaf priodol, bydd yr Adran Addysg a Sgiliau yn cysylltu â chyrff eraill o’r sector megis cymdeithasau masnach neu ffederasiynau busnes a hyfforddiant i ganfod eu barn hwy am y meini prawf perthnasedd. 

 

5.6  Yn hytrach na seilio penderfyniadau’n gyfan gwbl ar farn y SSCs/SSOs, bydd yr wybodaeth hon yn cael ei hystyried gan Baneli Cynghori Cymwysterau Sector. Nid yw’r paneli hyn wedi eu ffurfio eto, ond bydd angen cynrychiolaeth briodol arnynt, gan gynnwys cynrychiolaeth defnyddwyr ac ymarferwyr. Bydd y paneli hyn yn canolbwyntio ar y dechrau ar lywio dewisiadau ynglŷn â pha gymwysterau y dylid eu cyfrif fel rhai sy’n gymwys i gael eu cyllido yng Nghymru, ond ymhen amser bydd yn llywio’r prosesau achredu a chymeradwyo. Bydd rhanddeiliaid allweddol eraill yn cael eu gwahodd i benderfynu pa gymwysterau a dybir sy’n berthnasol i gynnydd addysgol neu gyflogaeth gysylltiedig. Dylid defnyddio nifer o ffynonellau gwybodaeth i gasglu tystiolaeth a barn.

 

5.7 Mae cysylltiadau wedi’u sefydlu rhwng yr Adran Addysg a Sgiliau a swyddogion arweiniol yr holl sectorau o fewn Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth (BETS) i godi ymwybyddiaeth o’r agenda cymwysterau. Bydd cyfarfodydd pellach yn cael eu cynnal i drafod y ffordd orau o gynnwys Paneli Sector BETS yn y broses o sicrhau perthnasedd cymwysterau.

 

5.8 Yn ogystal â gweithgarwch porthgadw cryfach, bydd gweithgarwch sicrhau ansawdd arall yn cael ei adolygu er mwyn canolbwyntio ar berthnasedd a gwerth cymwysterau ac i wirio bod gosodiadau ar gynnydd a diben a wneir gan Gyrff Dyfarnu ar adeg cyflwyno i Lywodraeth Cymru wedi cael eu gwireddu. Gall gweithgarwch sicrhau ansawdd roi sylw i feysydd penodol sy’n achos pryder a godir gan y Paneli Cynghori Cymwysterau Sector a gall hefyd adrodd canfyddiadau’n ôl i’r Paneli fel sail i waith cymeradwyo yn y dyfodol. 

 

6.           Diwallu anghenion cyflogwyr

 

6.1  Mae diwallu anghenion defnyddwyr, boed hwy’n gyflogwyr neu ddarparwyr addysg cam nesaf yn cael ei weld fel conglfaen proses porthgadw cymwysterau gryfach fel y disgrifiwyd yn yr adran flaenorol. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gofyn i Gyrff Dyfarnu gyflwyno tystiolaeth ar gynnwys cyflogwyr neu ddarparwyr addysg cam nesaf yn natblygiad cymwysterau ac i roi tystiolaeth yn ymwneud â’r llwybrau dilyniant sydd ar gael i ymgeiswyr ar ôl llwyddo i gael y cymhwyster.

 

6.2 Bydd y Paneli Cynghori Cymwysterau Sector a ddisgrifiwyd uchod yn cynnwys cynrychiolwyr cyflogwyr a bydd yn edrych ar wybodaeth a gyflenwir gan SSCs/SSOs sy’n ymwneud ag anghenion cyflogwyr. Dywedodd llawer o’r cyflogwyr a holwyd fel rhan o’r Adolygiad eu bod yn poeni llai am fanylion yr union gymwysterau sydd ar gael i bobl ifanc 14 i 19 oed nag am gyflogi pobl ifanc ‘cyflawn’ gyda safon uchel o lythrennedd a rhifedd a sgiliau cymdeithasol. Gellid mynd i’r afael â hyn drwy sicrhau bod yr holl ddysgu rhwng 14 a 19 oed yn digwydd o fewn rhaglen o ddysgu ehangach h.y. Bagloriaeth Cymru (gweler tudalen 11).

7.        Diwallu anghenion Addysg Uwch

 

7.1.  Bydd disgwyl i Gyrff Dyfarnu ddangos tystiolaeth o ddilyniant sy’n gysylltiedig â’u cymwysterau, gan gynnwys dilyniant o gymwysterau galwedigaethol i Addysg Uwch, pan fydd hynny’n briodol. Er mwyn rhoi sylw i rai o’r pryderon a fynegwyd o ran gallu cymwysterau galwedigaethol i baratoi dysgwyr ar gyfer astudiaethau Addysg Uwch, dylai unrhyw gymhwyster galwedigaethol gyda diben datganedig o ddilyniant i Addysg Uwch, gynnwys asesiad ysgrifenedig, sy’n cael ei farcio’n allanol, fel rhan bwysig o’r dull asesu.

 

8.        Cysoni ag Ewrop

 

8.1       Mae adroddiad yr Adolygiad o Gymwysterau’n pwysleisio’r angen i feincnodi cymwysterau a gyflenwir yng Nghymru yn erbyn cymwysterau rhyngwladol eraill er mwyn sicrhau bod cymwysterau’n gludadwy. Dywed hefyd fod lle i gryfhau’r cysondeb yn ein system â’r Alban, Gogledd Iwerddon a gwledydd eraill Ewrop.

 

8.2         Mae Hysbysiad Bruges 2010 yn amlinellu 22 o ganlyniadau tymor byr a fydd yn rhoi map ffyrdd ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol (VET) ar gyfer y deng mlynedd nesaf yn yr Aelod Wladwriaethau. Mae’n cynorthwyo drwy gynnig nodau cyffredinol ar gyfer VET yng Nghymru ac mae’n ein cysoni gyda’r 27 aelod wladwriaeth sydd wedi llofnodi Datganiad Copenhagen 29-30 Tachwedd 2002.  Mae proses Copenhagen (http://ec.europa.eu/education/vocational-education/copenhagen_en.htm) yn derm ymbarél i ddisgrifio’r holl gytundebau Ewropeaidd sydd â’r nod o ddatblygu VET mewn aelod wladwriaethau. Mae rhai o’r amcanion yn cyfeirio ar ymgysylltu â rhanddeiliaid i ddatblygu VET. Mae buddiannau cysoni IVET a CVET yn cynnwys:

 

·    Gweledigaeth fyd-eang ar gyfer addysg a hyfforddiant galwedigaethol yn 2020.

·    VET (I-VET) cychwynnol o ansawdd uchel y gall dysgwyr, rhieni a chymdeithas yn gyffredinol edrych arni fel opsiwn atyniadol, o’r un gwerth ag addysg gyffredinol. Dylai C-VET baratoi dysgwyr drwy roi cymwyseddau allweddol a sgiliau galwedigaethol penodol iddynt.

·    VET (C-VET) parhaus sy’n hygyrch ac yn rhoi pwyslais ar yrfa ar gyfer cyflogeion, cyflogwyr, entrepreneuriaid annibynnol a phobl ddi-waith, sy’n hwyluso datblygiad cymwyseddau a newidiadau gyrfaol.

 

Hefyd, mae’r Is-adran Rheoleiddio a Chymwysterau yn gweithio tuag at weithredu’r cylch ansawddEwropeaidd.

 

8.3       Mae’r canlynol yn crynhoi’r cynlluniau VET Ewropeaidd:

 

·    Mae Sicrwydd Ansawdd Ewropeaidd ar gyfer VET (EQAVET) yn gymuned ymarfer sy’n dwyn aelod wladwriaethau, cyflogwyr, undebau llafur a’r Comisiwn Ewropeaidd ynghyd i hybu cydweithrediad Ewropeaidd i ddatblygu a gwella sicrwydd ansawdd mewn VET drwy ddefnyddio’r Fframwaith Cyfeirio Sicrhau Ansawdd Ewropeaidd. Mae cynlluniau sicrhau ansawdd wedi cael eu datblygu ar lefel Ewropeaidd ers peth amser ac mae EQAVET wedi dwyn cynlluniau sicrhau ansawdd ynghyd ers 2010. Mae’r Fframwaith Cyfeirio Sicrhau Ansawdd Ewropeaidd ar gyfer VET yn adeiladu ar y Fframwaith Cymwysterau Ewropeaidd (EQF), y system Credyd Ewropeaidd ar gyfer VET (ECVET) a systemau sicrhau ansawdd Ewropeaidd blaenorol.

 

·    Mabwysiadwyd yr EQF yn 2008 er mwyn gwneud y system gymwysterau yng ngwledydd yr UE yn fwy tryloyw yn y gobaith y bydd busnesau, darparwyr dysgu, dysgwyr a gweithwyr yn sylweddoli y bydd eu huchelgais ar gyfer symudedd a chydnabyddiaeth yn haws i’w chyflawni. Un nodwedd arbennig o arwyddocaol oedd awydd y sectorau busnes i gael dyfais drosi i helpu i ddeall y gwahanol systemau cymwysterau cenedlaethol. Mae’r EQF yn ymdrechu i hybu dysgu gydol oes, i wneud cymwysterau ledled Ewrop yn haws i’w deall, i egluro’r systemau hyfforddi ledled Ewrop ac annog integreiddio yn y farchnad lafur Ewropeaidd.

 

·    Nod ECVET yw hwyluso symudedd y gweithlu mewn VET ledled Ewrop. Mae wedi’i dreialu mewn prosiectau peilot ar hyd a lled yr Undeb Ewropeaidd gyda’r bwriad o ymestyn y defnydd a wneir ohono’n raddol i gynnwys amrediad ehangach o gymwysterau VET, sy’n newydd neu sy’n bodoli eisoes fel rhan o’r cynllun Addysg a Hyfforddiant 2020 .

 

·    Mae Sgiliau, Cymwyseddau a Galwedigaethau Ewropeaidd (ESCO) yn dal yng nghamau cynnar ei ddatblygiad ac mae’n cael ei ddatblygu a’i dreialu am y tro cyntaf yn 2012. Y syniad yw cysylltu’r holl systemau data cenedlaethol sy’n disgrifio’r galwedigaethau yn y marchnadoedd llafur cenedlaethol a’r sgiliau a’r cymwyseddau sydd eu hangen ar gyfer swyddi. Gobeithir y bydd hyn yn helpu cyflogwyr i ddangos eu swyddi gwag mewn ffordd a fydd yn ddealladwy mewn gwledydd eraill ac mewn ffordd y gall ceiswyr gwaith ei deall o safbwynt eu huchelgais eu hunain a’u gwybodaeth, eu sgiliau a’u cymwyseddau. Er mwyn gwneud hyn bydd angen creu dosbarthiad Ewropeaidd a all gysylltu sgiliau/cymwyseddau, cymwysterau a galwedigaethau. Mae ein Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) yn bwysig ar gyfer hyn.

 

9.        Lleihau nifer y cymwysterau cymeradwy yng Nghymru

 

9.1  Mae dull fesul cam yn cael ei fabwysiadu i gyflwyno prosesau diwygiedig er mwyn treialu, gwerthuso a mireinio’n barhaus. Ymgymerwyd â rhai gweithgareddau yn ystod yr Adolygiad ac yn y cyfnod rhwng cyhoeddi’r adroddiad ac ymateb y Dirprwy Weinidog i’r argymhellion. Mae canfyddiadau’r gweithgareddau hyn yn sail i’r cynllun cyflawni.

 

9.2  Fel rhan o’r Adolygiad, ac mewn cydweithrediad â Chyrff Dyfarnu, cafodd rhai cymwysterau eu diddymu o’r DAQW ar gyfer y grwpiau oedran 14 i 16 ac 16 i 19. Defnyddiwyd amryw o ddulliau, gan gynnwys diddymu cymwysterau nad ydynt wedi’u cynnwys mewn fframwaith prentisiaeth ac nad ydynt wedi cael eu cynnig mewn ysgolion a cholegau Addysg Bellach yn 2012/13 neu yn y ddwy flynedd academaidd ddiwethaf (heb gynnwys cymwysterau newydd). Mae hyn wedi arwain at ddiddymu 3,000 o gymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14 i 19 oed. Fodd bynnag, mae nifer sylweddol fwy o gymwysterau ar gael o hyd ar y DAQW na’r hyn a ragwelwyd yn ystod y broses ddiddymu gan fod nifer fawr o’r rhain yn cael eu herio gan Gyrff Dyfarnu

 

10.     Astudiaethau Sector

 

10.1 Fel rhan o’r Adolygiad, cynhaliwyd pedair Astudiaeth Sector gan ymgynghorwyr allanol [mewn TGCh, Gofal, Peirianneg a Theithio/Twristiaeth]. Nod yr astudiaethau oedd treialu’r gwaith o gynhyrchu Rhestrau Blaenoriaethau Cymwysterau Sector mewn nifer o sectorau. Arweiniodd pob astudiaeth at gynhyrchu adroddiad a oedd yn sail i’r meini prawf ar gyfer blaenoriaethu’r cymwysterau a ddefnyddir yng Nghymru. Roedd yr astudiaethau sector yn rhai traws sector ac roeddent yn cynnwys ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys addysg bellach, addysg uwch a chyflogwyr.

 

11.     Treial Blaenoriaeth Cymwysterau Sector

 

11.1  Yn ystod Hydref a Thachwedd 2012, manteisiodd yr Adran Addysg a Sgiliau ar drefniadau contract Gwasanaethau Cyffredinol Comisiwn Cyflogaeth a Sgiliau’r DU â  SSC/SSOs, i dreialu gweithgarwch Blaenoriaeth Cymwysterau Sector (SQP) yn seiliedig ar feini prawf a gynhyrchwyd o ganlyniad i’r astudiaethau sector.

11.2  Nod cyffredinol gweithgarwch peilot SSC/O SQP oedd asesu perthnasedd y cymwysterau sydd ar gael i ddysgwyr yng Nghymru o safbwynt mynediad i’r sector priodol. Gweithgarwch peilot oedd hwn, ac felly nid oedd y data a roddwyd i SSC/SSOs yn berffaith o bell ffordd. Roedd y taenlenni’n cynnwys cymwysterau ar gyfer cymwysterau galwedigaethau sector benodol, cymwysterau traws sector, a chymwysterau cyffredinol a restrir ar y DAQW.

11.3  Yn sgil cylch gwaith yr Adolygiad o Gymwysterau ar gyfer Pobl Ifanc 14-19 oed yng Nghymru, roedd y gweithgarwch penodol hwn yn canolbwyntio ar gymwysterau Lefel 2 a Lefel 3. Felly, ar yr achlysur hwn ni ofynnwyd i SSC/Os adolygu cymwysterau Lefel Mynediad, nac unrhyw gymwysterau ar y DAQW ar gyfer Lefelau 1, 4, 5, 6 na 7. Cyfyngwyd yn sylweddol hefyd ar nifer y cymwysterau traws sector.

 

11.4  Nid nod y gweithgarwch SQP oedd creu rhestr newydd o gymwysterau, ond yn hytrach casglu data ynghyd o amryw o ffynonellau, adolygu’r rhestr bresennol o gymwysterau sydd ar gael ar y DAQW. Nid oedd cynnwys SSC/SSOs yn golygu eu bod yn cael eu gwahodd i wneud penderfyniadau ar ba gymwysterau fyddai’n cael eu hariannu, ond i roi gwybod i swyddogion pa gymwysterau y mae SSC/Os yn credu sy’n berthnasol ac yn cael eu gwerthfawrogi ac i gynnig sylwadau ar y meini prawf a’r fethodoleg drafft.

 

11.5  Ar ôl cwblhau’r gweithgarwch hwn roeddem mewn sefyllfa wedyn i greu cronfa ddata fewnol y gellir ei chwilio i bennu:

 

·         Pob cymhwyster sy’n Hanfodol/Dymunol yn ôl SSC/SSOs.

·         Cymwysterau blaenoriaeth a nodwyd gan SSC/SSOs drwy nodi pa rai sy’n cynnig: Dilyniant i Addysg Bellach/ Addysg Uwch / Cyflogaeth / Hyfforddiant; neu Drwydded i Ymarfer.

·         Rhestr derfynol o godau sector pwnc sy’n gysylltiedig ag ymatebion SSC/SSO.

·         Rhestrau o unrhyw gymwysterau "coll" a nodwyd gan SSC/SSOs (a all fod wedi’u dileu oddi ar y DAQW, heb eu cyflwyno erioed i gael eu defnyddio yng Nghymru, neu wedi’u categoreiddio’n anghywir gan Gorff Dyfarnu). Bydd angen mwy o waith i ddatrys y materion hyn.

·         Cymwysterau traws sector a ystyrir fel rhai hanfodol neu ddymunol fesul sector.

·         Cymwysterau cyffredinol a ystyrir fel rhai hanfodol neu ddymunol fesul sector.

·         Dadansoddi bylchau/methiant y farchnad.

·         Cymwysterau dyblyg a ganfuwyd.

·         Cymwysterau a ddefnyddir mewn Prentisiaethau/Llwybrau.

·         Y meini prawf a adawyd yn wag gan SSC/SSOs, sy’n awgrymu y bydd angen i ni ystyried sefydliadau eraill i gwblhau’r meysydd hyn.

 

11.6  Dangosodd adborth gan y SSC/SSOs ar y peilot SQP y cyfeiriwyd ato uchod eu bod wedi cael trafferthion o ran capasiti gydag ymarferiad “un-tro” o’r maint hwn, ac y byddai’n well ganddynt ymestyn y dasg ar draws y flwyddyn os yn bosibl. Felly, mae’r Adran Addysg a Sgiliau’n bwriadu defnyddio ei gyfraniad Cymorth Grant at Wasanaethau Cyffredinol UKCES yn 2013/14 i fireinio gwaith treialon y SQP ymhellach:

 

·         Yn Ebrill 2013 – bydd pob SSC/Os yn cael defnyddio’r gronfa ddata SQP newydd ar gyfer Cymru. Gofynnir iddynt adolygu/gwirio/cymeradwyo pob cymhwyster a restrir ar gyfer eu sectorau.

·         Yn Ebrill 2013 – bydd SSC/Os hefyd yn cael rhestrau o gymwysterau sectoraidd Lefel 1, 4, 5, 6 heb eu gweld ar y DAQW. Gofynnir i SSC/Os weithredu’r Meini Prawf Perthnasedd/Gwerth yn achos y cymwysterau hyn.

·         Yn fisol - bydd SSC/SSOs yn cael rhestr o’r holl gymwysterau galwedigaethol, cymwysterau cyffredinol a chymwysterau traws sector a gyflwynir i’r Adran Addysg a Sgiliau, i’w cymeradwyo yn erbyn y meini prawf Perthnasedd/Gwerth diwygiedig.

 

12.     Dadansoddi data’r sector TGCh

 

12.1  Nod cyffredinol yr astudiaeth fach hon yw awgrymu cyfuniadau defnyddiol o ddata sy’n gysylltiedig â’r cymwysterau TGCh sydd ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd. Bydd yr ymgynghorydd yn awgrymu cyfuniadau o feysydd data o restr Flaenoriaeth Cymwysterau’r Sector TGCh a allai roi gwybodaeth ddefnyddiol i Lywodraeth Cymru (yn gysylltiedig ag achredu, cymeradwyo ac ariannu, er enghraifft). Bydd yr astudiaeth hefyd yn cymharu’r canfyddiadau TGCh â data ac adroddiadau eraill sy’n gysylltiedig â chymwysterau TGCh, fel yr Astudiaeth Sector TGCh a nodwyd uchod ac adroddiadau a gyflwynwyd gan Reolwyr Cwricwlwm TGCh mewn Colegau Addysg Bellach yng Nghymru ar gyrsiau sy’n cael eu cynnig yn awr yn y sector Addysg Bellach. Y gobaith yw y bydd yr astudiaeth hon yn awgrymu methodoleg ar gyfer dadansoddi data tebyg mewn sectorau eraill.

 

13.     Porthgadw

 

13.1  Mae rhai camau’n cael eu cymryd ar unwaith i gryfhau’r broses o gymeradwyo cymwysterau sy’n gymwys i gael eu hariannu yng Nghymru, megis y treial sy’n cynnwys Cyngor Gofal Cymru i farnu a yw’r cymwysterau arfaethedig yn ateb y gofynion ar gyfer amrediadau oed penodol yn ei sector. Mae bwriad hefyd i gyflwyno’r categorïau IVETs a CVETs cyn gynted â phosibl. Bydd angen ymgynghori â Chyrff Dyfarnu cyn cyflwyno newidiadau pwysig pellach.

13.2  Mae penderfyniadau ar gymeradwyo cymwysterau yng ngofal Llywodraeth Cymru o hyd. Nes bydd y Paneli Cynghori Cymwysterau Sector priodol wedi’u sefydlu, mae Swyddogion Llywodraeth Cymru yn gwneud gwaith craffu lefel uchel ar y cymwysterau sy’n aros i gael eu cymeradwyo a gyflwynir i’r DAQW yn fisol.

13.3  Er mwyn treialu sut y gall sefydliadau sector gyfrannu at y broses hon, mae gwaith â’r sector Gofal yn cael ei dreialu. Yn fisol, mae rhestr o gymwysterau Iechyd a Gofal heb eu cymeradwyo a gyflwynir i’r DAQW i gael eu cymeradwyo yn cael ei hanfon at Gyngor Gofal Cymru (CCfW) i gael ei sylwadau.

13.4  Rydym yn gofyn i CCfW adolygu’r rhestr a’i dychwelyd atom yn ei ffurf daenlen bresennol, gyda sylwadau yn y colofnau priodol sydd wedi’u hamlygu. Fel rhan o’r broses hon, y meini prawf perthnasedd y gofynnir iddynt eu hystyried yw:


1. A yw’r cymhwyster yn hanfodol/dymunol ar gyfer mynediad i’r sector?
2. A yw’r cymhwyster yn caniatáu dilyniant i Addysg Bellach/ Addysg Uwch / Cyflogaeth / Hyfforddiant?
3. A yw’r cymhwyster wedi’i fwriadu i’w ddefnyddio ar Fframwaith Prentisiaeth?
4. A yw’r cymhwyster yn drwydded i ymarfer?
5. A yw’r cymhwyster yn IVET neu’n CVET?
6. A yw’r codau pwnc a’r dibenion yn gywir, ac os felly, ar gyfer pa grwpiau oedran mae’r cymhwyster yn addas
?

 

Byddwn yn gwerthuso’r broses hon hyd yma erbyn diwedd Ebrill 2013.

 

14.     Effaith ehangach ar gymwysterau galwedigaethol

 

14.1  Er bod yr adolygiad a’i argymhellion yn ymwneud yn benodol â chymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14 i 19 oed, bydd yn cael effaith ehangach ar gymwysterau ôl 19 oed. Bydd egwyddorion proses porthgadw yn seiliedig ar dystiolaeth sy’n ategu pob cymhwyster a dylai pwyslais ar addasrwydd i’r diben y cymwysterau ar gyfer grwpiau oedran sicrhau y bydd cymwysterau ôl 19 oed yn fwriadus ac na fyddant yn gorfod wynebu’r sylwadau negyddol a wnaethpwyd amdanynt o ganlyniad i ddarparu’r cymwysterau hyn mewn cyd-destun amhriodol. Dylai llwybrau dilyniant hefyd alluogi dysgwyr ôl 19 oed i adeiladu ar seiliau cymwysterau priodol yn yr oedran 14 i 19.

 

14.2  Byddai nifer llai o gymwysterau hefyd yn help mawr i’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, gan y rhoddid blaenoriaeth i roi cymorth i’r cymwysterau mwyaf perthnasol.

 

14.3  Rhagwelir y bydd y data o’r gweithgarwch SQP yn ddefnyddiol hefyd i isadrannau eraill yn Llywodraeth Cymru. Mae Swyddogion yn gweithio â’r Tîm Polisi Ariannu yn yr Adran Addysg a Sgiliau i rannu ein tystiolaeth ar gymwysterau sy’n cael eu gweld fel rhai perthnasol ac sy’n cael eu gwerthfawrogi gan wahanol grwpiau o randdeiliaid. Lle gwelir cydberthyniad rhwng safbwyntiau SSC/Os, cyflogwyr, paneli sectorau, a phartneriaid cyflenwi, dylem allu gwneud penderfyniadau cliriach ar ba gymwysterau ddylai gael eu cynnwys yn y rhaglenni maes dysgu a llwybrau prentisiaeth, ac a fydd felly’n gymwys i gael arian cyhoeddus.

 

14.4  Mae’r data hwn o ddiddordeb hefyd i gydweithwyr o fewn BETS, pan fyddant yn adolygu’r gofynion sgiliau a chymwysterau o fewn y naw sector blaenoriaeth yng Nghymru.

 

15.     Cyfathrebu

 

15.1  Nid yw gwerth cymwysterau galwedigaethol yn cael ei werthfawrogi gan bawb, a dylai’r strategaeth gyfathrebu arfaethedig roi sylw i hyn drwy hybu gwell dealltwriaeth o rôl a pherthnasedd cymwysterau galwedigaethol. Yn ogystal â’u gwerth cynhenid, gall cymwysterau galwedigaethol, ac yn enwedig cymwysterau ymarferol, gymell a symbylu rhai dysgwyr a fyddai mewn perygl o golli diddordeb mewn addysg fel arall.

 

16.    Cymwysterau Cyffredinol

 

16.1  Ar y cyfan, canfu’r Adolygiad fod cefnogaeth eang i gadw’r brandiau TGAU a lefel A.

 

16.2  Canfu’r Adolygiad fod y brand lefel A yn uchel ei barch a bod gan y cyhoedd hyder ynddynt. Roedd canfyddiadau’r adolygiad yn cyd-fynd i raddau helaeth â chanfyddiadau ymchwil a gomisiynwyd gan y tri rheoleiddiwr i ystyried a yw lefel A yn ‘Fit for Purpose’, i ddefnyddio teitl yr ymchwil a gyhoeddwyd yn Ebrill 2012.

 

“Overall, A levels were viewed positively by all the research audiences. Generally, those associated with higher education and teachers agreed that the A level qualification prepares most students for higher education undergraduate degrees. Employers said they select A level school leavers because they have met the right level of academic achievement”.

 

(Ipsos Mori Report (2012):  Fit for Purpose? The view of the higher education sector, teachers and employers on the suitability of A levels, tudalen 3.)

 

16.3  Awgrymodd rhanddeiliaid y gellid gwneud rhai gwelliannau i lefel A a bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried yr awgrymiadau hyn o fewn cyd-destun ehangach diwygio lefel A yng Nghymru a Lloegr.

 

16.4  Fel yn achos lefel A, canfu’r Adolygiad fod TGAU yn uchel eu parch a bod gan y cyhoedd hyder ynddynt. Yn sicr nid oedd y Bwrdd o’r farn bod TGAU yn ddrylliedig, ond canfu fod angen datblygu rhai ohonynt.

 

16.5  Yn fwyaf arbennig, nid oedd rhai cyflogwyr a chynrychiolwyr Sefydliadau Addysg Uwch yn teimlo bod y TGAU presennol mewn Iaith Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg yn ddangosyddion dibynadwy o lefelau priodol o lythrennedd a rhifedd. Er enghraifft, mae rhai cyflogwyr a phrifysgolion o’r farn nad yw gradd C, neu hyd yn oed uwch, yn warant o lythrennedd a rhifedd digonol.

 

“At present qualifications in Wales do not give employers sufficient confidence in the skills of young people, particularly literacy, numeracy and employability skills”

 

Ffederasiwn y Busnesau Bach

 

16.6  Er mwyn rhoi sylw i’r mater hwn, mae’r Adolygiad o Gymwysterau yn argymell y canlynol ar gyfer addysgu cyntaf o Fedi 2015 ymlaen:

 

         dylid datblygu TGAU diwygiedig mewn Iaith Saesneg a Chymraeg Iaith Gyntaf; a

         bod dau TGAU mathemateg, un sy’n ymdrin â rhifedd ac un arall sy’n ymdrin ag agweddau ar dechnegau mathemateg yn cael eu datblygu ar gyfer addysgu cyntaf o Fedi 2015 ymlaen.

 

16.7  Gyda’i gilydd, disgwylir y bydd y TGAU newydd hyn yn rhoi gwybodaeth fwy dibynadwy i gyflogwyr a sefydliadau Addysg Uwch am sgiliau llythrennedd a rhifedd eu darpar gyflogeion.

 

17.    Cymhwyster Bagloriaeth Cymru

 

17.1  Mae’r Adolygiad o Gymwysterau yn amlinellu nifer o argymhellion i adeiladu ar ac i wella Cymhwyster Bagloriaeth Cymru. Wrth dderbyn argymhellion yr Adroddiad, mae Gweinidogion wedi datgan yn eglur eu disgwyliad y dylid cael Bagloriaeth Cymru mwy trylwyr.

 

Dylai’r newidiadau i Fagloriaeth Cymru roi sylw i’r pryderon a nodwyd yn yr Adolygiad o Gymwysterau. Bydd y rhain yn cynnwys:

 

·         newid y dull asesu ar gyfer rhai elfennau

·         cael gwared ar ddysgu neu asesu sy’n cael eu hailadrodd yn ddiangen

·         gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o Fagloriaeth Cymru

·         cryfhau enw da Bagloriaeth Cymru

·         cyflwyno graddio i’w wneud yn fyw trylwyr – bydd lefel Uwch yn cael ei graddio o Fedi 2013 ymlaen

·         cynyddu lefel y galw

 

17.2  Mae’r adroddiad hefyd yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru annog cynnydd yn y niferoedd sy’n cymryd Bagloriaeth Cymru ac y dylai, ymhen amser, fod yn sail i brif fesurau perfformiad. Y farn oedd mai mabwysiadu cyffredinol oedd y ffordd orau o ddarparu addysg eang a chytbwys i bobl ifanc 14 i16 oed a rhaglen ddysgu gydlynol i rai 16-19 oed. Dylai gwneud ennill Bagloriaeth Cymru yn brif fesur perfformiad fynd beth o’r ffordd i annog mwy i’w ddilyn. Bydd hefyd angen ystyried sut y gallai mecanweithiau ariannu gyfrannu at y nod o’i fabwysiadu’n gyffredinol. Bydd gwella’r cymhwyster, y canfyddiad ohono a’r gydnabyddiaeth ohono ymhlith Sefydliadau Addysg Uwch a chyflogwyr hefyd yn ffactorau pwysig.

 

17.3  Mae’r model a amlinellir yn Adroddiad yr Adolygiad o Gymwysterau yn fan cychwyn ar gyfer datblygu pellach. Byddwn yn gweithio â phartneriaid cyflenwi a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu’r model. Mae grŵp llywio wedi’i sefydlu i oruchwylio’r gwaith o ddatblygu Cymhwyster Bagloriaeth Cymru. Cyfarfu’r grŵp am y tro cyntaf ar 5 Chwefror. Mae’r grŵp yn cynnwys cynrychiolaeth o nifer o randdeiliaid. Ymhlith y materion y bydd angen i’r Grŵp Llywio eu hystyried wrth ddatblygu’r model fydd a ddylid cynnwys Gwyddoniaeth yn y gofyniad Cymwysterau Hanfodol, ynghyd ag Iaith Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf a Rhifedd. Mae hwn yn fater sydd wedi’i godi eisoes gan rai rhanddeiliaid. 

 

17.4  Mae’r model a amlinellir yn Adroddiad yr Adolygiad o Gymwysterau yn rhoi pwyslais ar bwysigrwydd sgiliau. Caiff y rhain eu hymgorffori o fewn y Craidd ar gyfer dysgwyr cyn 16 oed a bydd yn cael ei gynnwys yn y Craidd ac yn y Sgiliau Hanfodol Cymru diwygiedig ar gyfer dysgwyr ôl 16 oed.

 

17.5  Mae Simon Thomas AC wedi codi cwestiynau ynghylch cyfyngu ar gymwysterau galwedigaethol sy’n cyfrif tuag at drothwyau perfformiad lefel 1 a 2 ac at ofyniad “Cymwysterau Ategol Allanol” lefel Cenedlaethol a Chenedlaethol sylfaen Cymhwyster Bagloriaeth Cymru. Yn y ddau achos, mae argymhelliad 39 yr Adolygiad o Gymwysterau yn cyfyngu’r cyfraniad i 40%.  Fodd bynnag, fel yr amlinellir ym mharagraff 4.4, gellid parhau i ddysgu rhagor o gymwysterau neu rai mwy ble maent yn diwallu anghenion dysgwyr unigol. Teimlir mai dyma’r cydbwysedd priodol yn y cwricwlwm i bobl ifanc.